Safio Dannedd Naturiol
Cadw dant neu dynnu dant… Dyna’r cwestiwn.
Cadw dant neu dynnu dant… Dyna’r cwestiwn.
Mae Abdul wedi ennill Aelodaeth mewn Endodonteg yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon ac mae’n ddarlithydd clinigol mewn Endodonteg ym Mhrifysgol Lerpwl. Mae’n Arbenigwr endodontig ac mae’n derbyn atgyfeiriadau ar gyfer ymgynghoriadau a thriniaethau cymhleth i sianel y gwreiddyn, achosion sylfaenol ac ail-driniaethau. Gan ymfalchïo mewn trin cleifion mewn modd gofalgar, mae ei holl driniaethau’n cael eu cwblhau o dan y microsgop llawdriniaeth, ac i safon uchel i helpu cleifion i gadw eu dannedd naturiol am gyfnod hirach. Yn ogystal â chwblhau hyfforddiant clinigol llawn amser 3 blynedd ym Mhrifysgol Lerpwl, mae wedi cwblhau doethuriaeth ymchwil yn gwerthuso sut i ddiheintio...
DARLLENWCH FWY
Y tu mewn i bob dant mae "llinynnau" meinwe meddal tenau sy'n feinwe nerfol mân. Bydd dant iach yn ymateb i dymheredd fel diodydd oer, neu hufen iâ drwy deimlo’n siarp sydd fel arfer yn mynd o fewn eiliadau. Y "nerf" yw hwn sy'n gweithredu fel synhwyrydd tymheredd.
Os oes twll mewn dant, neu os yw wedi torri neu gracio, bydd bacteria wedyn yn mynd i mewn i’r "nerf", ac yn achosi’r ddannoedd. Mae modd cael gwared ar y ddannoedd os caiff ei ddal yn gynnar, gan roi amser i'r nerf drwsio ei hun, trwy gael llenwad i’w selio rhag bod y bacteria yn mynd i mewn i’r dant.
Gwaetha’r modd, os yw'r bacteria wedi mynd yn ddwfn i mewn i’r dant, bydd yn achosi i'r nerf fynd yn llidus, chwyddo ac yna ni fydd yn bosibl cael gwared ar y ddannoedd gan na fydd yn ymateb i lenwad syml. Bydd hyn yn arwain at heintio’r nerf wrth i’r bacteria fynd i mewn iddo, ac yn y pen draw bydd crawniad (abscess) yn datblygu o dan y dant.
Os yw hyn yn digwydd mae dau opsiwn... llenwi sianel y gwreiddyn neu dynnu’r dant.
Unwaith y bydd y siambr nerfol y tu mewn i dant yn llidus ac nad oes modd cael gwared ar yr haint, yr unig ffordd i achub dant yw tynnu'r holl feinwe heintiedig yma. Mae llenwad sianel y gwreiddyn yn driniaeth gyffredin, ond gall fod yn gymhleth mewn rhai achosion. Mae'r sianel yn cael ei glanhau’n ofalus, gan dynnu meinwe nerfol heintiedig a siapio tu mewn y dant a'r gwreiddyn. Gwneir hyn o dan "llen rwber", darn o rwber wedi’i ynysu, gan ddefnyddio cemegau diheintio ac offer arbennig.
Canlyniad hyn yw sianel lân, wedi’i siapio’n daclus y tu mewn i'r dant, sy'n rhydd o facteria. Yna caiff ei llenwi â chonau rwber arbennig, glud arbennig, ac mae'r gwreiddyn cyfan yn cael ei lenwi a'i selio. Wedyn fel arfer gosodir coron ar y dant i wneud y dant yn gyfan, neu weithiau mae angen postyn cyn gosod coron i atgyfnerthu'r dant.
Unwaith y bydd y dant yn cael ei ddiheintio a'i selio o dan amodau di-haint a'i lenwi, mae'n rhoi amser i'r corff ddelio â'r crawniad o dan y gwreiddyn yn asgwrn yr ên. Trwy dynnu’r holl facteria allan o du mewn i'r dant, mae gan y system imiwnedd fwy o siawns i gael gwared ar weddill y bacteria, gan arwain at asgwrn, ddi-haint. Mae cyfradd llwyddiant triniaeth sianel y gwreiddyn oddeutu 90%.
Weithiau nid yw therapi sianel y gwreiddyn yn cael ei wneud i'r safon orau fel y disgrifir uchod, neu efallai bod anatomi’r dant yn fwy cymhleth na'r hyn y gall Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol ymdopi ag ef.
Mae Endodonteg yn faes arbenigol, ac mae Endodontydd yn treulio'r rhan fwyaf o'i ddiwrnod yn ail-drin achosion cymhleth o sianel y gwreiddyn sydd wedi methu’n llwyr, neu eu trin yn y lle cyntaf. Mae gan endodontyddion brofiad o weithio gan ddefnyddio Microsgop Deintyddol sy'n caniatáu iddynt weld hyd at 20 gwaith yn well na'r llygad noeth. Mae'r manylder hwn, a mwy o olau, yn caniatáu iddynt weld y tu mewn i'r dant yn well i ddod o hyd i nerfau calchedig, tynnu unrhyw beth sydd wedi torri, mynd heibio i ledges, a delio ag ambell sianel y gwreiddyn sy’n achosi problem, i roi’r cyfle olaf i achub y dant. Mae cyfradd llwyddiant ail-drin sianel y gwreiddyn tua 75% -80% gydag Endodontydd Arbenigol.
Yn Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau at ein Endodontydd Arbenigol.
Cliciwch yma i atgyfeirio'ch claf at ein Harbenigwyr
Gan fod cymhlethdodau’n gysylltiedig â llenwadau sianel y gwreiddyn yn gallu bod o natur gronig, ynghyd â bioleg yr haint a'r math o facteria a achosodd y crawniad gwreiddiol, dydi’r driniaeth i sianel y gwreiddyn ddim yn gweithio bob amser i bawb, hyd yn oed os yw'r dant yn lân a heb unrhyw haint y tu mewn iddo. Gallai hyn fod oherwydd ffactorau dynol a gallu'r corff i drwsio’i hun.
Weithiau, bydd yn rhaid i Endodontydd gynnal triniaeth ficrolawfeddygol, lle bydd yn mynd at yr haint cronig o uwchben y gwreiddyn, trwy ffenestr fach yn yr asgwrn. Bydd yn defnyddio offer arbenigol iawn, yn tynnu blaen y gwreiddyn heintiedig, yn selio'r gwreiddyn o'r blaen gan ddefnyddio sment arbennig, ac yn glanhau'r ardal. Mae hyn wedyn yn rhoi gwell siawns i'r corff wella. Gelwir hyn yn drychiad y brig (apicectomy) a gyda thechnegau modern, mae’n bosibl sicrhau cyfradd llwyddiant uchel.
Os nad yw'r driniaeth yma’n bosibl, neu os nad yw claf yn dymuno cael y driniaeth yma, yna gellir gosod mewnblaniad. Am ragor o wybodaeth, gweler ein hadran mewnblaniadau.
Mae'r lluniau isod yn dangos y camau wrth drin sianel y gwreiddyn - o'r ceudod cychwynnol i lenwi’r dant a gosod coron.
I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim gyda Chydlynydd Triniaethau ffoniwch ni ar:
Ddim yn un o’n cleifion?
Gwneud Cais HeddiwArgraffwyd o www.nanog.dental 26/10/2026 16:13:43.
Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team 8 Llys Castan, Parc Menai, Bangor LL57 4FH
Ffôn: 01248 858383
Ebost: reception@nanog.dental