Canolfan Ragoriaeth Ddeintyddol Gogledd Cymru

Gwên Newydd Hardd

Eisiau ailgynllunio eich gwên i edrych yn hardd a naturiol

 

Bondio resin cyfansawdd (composite bonding)

Mae dannedd wedi'u gwneud o enamel a dentin. Ers nifer o flynyddoedd mae'r dechnoleg wedi bodoli i ddefnyddio resin i fondio deunydd 'cyfansawdd' fel llenwad gwyn i ddannedd. Yn Na-Nóg dydyn ni ddim wedi defnyddio llenwadau amalgam arian ers 15 mlynedd, ac mae'n well gennym ddefnyddio resin cyfansawdd i lenwi'ch dannedd i ail-greu'r strwythur a gollwyd drwy bydredd, neu asidau o'ch diet.

Gellir defnyddio’r un resin cyfansawdd ar eich dannedd blaen presennol i'w hail-siapio, a newid eu lliw. Mantais y broses yma yw mai ychwanegu deunydd a wneir ar y dannedd ac felly mae modd dadwneud y broses, ac ni wneir unrhyw niwed i'r enamel oddi tano.

Argaenau (veneers)

Deunydd seramig tenau (tebyg i wydr) ydi argaenau, a gellir meddwl amdanynt fel deunydd tebyg i ewinedd artiffisial, neu lens gyffwrdd. Gellir eu gwneud hefyd o resin cyfansawdd. Gallwn wella siâp, lliw a safle eich dannedd gydag argaenau, gyda neu heb orthodonteg, a chyfuno hyn â system gwynnu dannedd i wella lliw’r dannedd rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Defnyddir sment resin i ffurfio asiad (bond) cryf rhwng wyneb mewnol yr argaen tenau, ac enamel eich dannedd, gan roi edrychiad gwell sy'n edrych yn naturiol. Rydyn ni’n aml yn gwneud copi enghreifftiol yn gyntaf i ddangos y canlyniad terfynol i chi, fel y gallwch chi wisgo copïau plastig dros dro o'r dyluniad terfynol er mwyn treialu'ch gwên newydd, cyn i ni ffitio'r argaenau.

Mae argaenau yn driniaeth lle gellir gwella siâp, lliw a safle eich dannedd yn sylweddol mewn cyfnod byr o amser, gan roi'r wên rydych chi wastad wedi dyheu amdani.

Rydyn ni’n defnyddio deunydd gwydr cryf o'r enw Lithiwm Disilicate, a elwir hefyd yn Emax, i baratoi ein hargaenau a’n coronau pwrpasol ar ddannedd blaen. Mae’r cyfradd goroesi yn 96% dros 10 mlynedd, a dyma'r deunydd mwyaf naturiol yn y farchnad.

Mae'r broses o osod argaenau fel arfer yn cael ei chwblhau mewn dau ymweliad.

Bioclear®


Defnyddio Bioclear® ar y dannedd blaen

Bioclear®

Mae'r 'dull' triniaeth Bioclear® yn dechneg fodern a ddefnyddir i wella edrychiad dannedd, heb fod angen tynnu enamel oddi ar y dannedd. Mae'n creu haen gyfansawdd gryf, llyfn a gorffeniad sy'n edrych yn naturiol.

Mae Bioclear® yn driniaeth dda ar gyfer dannedd, p'un a oes gennych chi grac neu os collwyd darn bach o’r dant, neu os ydych chi am newid eu siâp neu eu hedrychiad.

Gall Bioclear® bara mwy na 10 mlynedd os gofalwch amdano, mae'r deunydd yn wydn a gall wrthsefyll traul. Gall cleifion sydd ag argaenau Bioclear® fwyta'r rhan fwyaf o fwydydd a gellir eu trwsio’n haws nag argaenau porslen. Mae Bioclear® yn broses undydd.

Deunyddiau eraill ar gyfer Bioclear®

Gellir defnyddio Bioclear® hefyd ar ddannedd cefn a gellir ei ystyried yn ddewis arall da rhwng llenwad cyfansawdd gwyn mawr a wneir yn y ffordd reolaidd, a choron lawn. Gellir defnyddio Bioclear® hefyd ar ddannedd cefn a gellir ei ystyried yn ddewis arall da rhwng llenwad cyfansawdd gwyn mawr a wneir yn y ffordd reolaidd, a choron lawn.

Mewn dannedd blaen a chefn, mae Bioclear®, yn defnyddio proses fowldio drwy chwistrellu deunydd cyfansawdd (composite) wedi'i gynhesu, sy'n dechneg wahanol i lenwadau cyfansawdd (gwyn) traddodiadol.

Bioclear® Bioclear®

Eisiau rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim

I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim gyda Chydlynydd Triniaethau ffoniwch ni ar:

01248 858383

Ddim yn un o’n cleifion?

Gwneud Cais Heddiw

Argraffwyd o www.nanog.dental 26/10/2026 16:12:57.

Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team 8 Llys Castan, Parc Menai, Bangor LL57 4FH

Ffôn: 01248 858383
Ebost: reception@nanog.dental