Canolfan Ragoriaeth Ddeintyddol Gogledd Cymru

Gwella eich Gwên

Cadw ac ailwneud un dant neu fwy neu eich holl ddannedd.

Adfer ac ailwneud un dant neu fwy

Mae pob claf yn unigryw, ac i'r ganran fach o'r boblogaeth nad yw mewnblaniadau yn addas ar eu cyfer, neu sy'n dewis triniaeth arall, coronau, pontydd a dannedd gosod yw’r dulliau eraill o gadw neu ailwneud un dant neu fwy.

Mae coronau yn cadw'r rhan isaf o strwythur y dant sy'n weddill, ac yn helpu i’w atal rhag cracio a thorri. Defnyddir pontydd a dannedd gosod ar gyfer bylchau mewn dannedd naturiol neu, yn achos set lawn o ddannedd gosod, pob dant mewn gên. Bydd eich clinigwr yn Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team yn trafod y driniaeth fwyaf addas ar sail ar eich gofynion deintyddol personol chi.

Beth ydym yn ei wneud...

Oes angen coron ar ddant?

Er mwyn i ddannedd bara wrth i chi fynd yn hŷn, mae angen iddynt gadw’n gryf. Bellach, rydyn ni'n cadw dannedd am gyfnod hirach, ac mae nifer y cleifion sy'n crensian / greindio eu dannedd yn uchel. Gwaetha’r modd, ni fydd dannedd sydd wedi eu difrodi oherwydd llenwadau mawr, neu ddifrod oherwydd traul dannedd (crensian / erydiad asid) yn para heb eu hailwneud yn llawn.

Rydyn ni’n gosod coron ar ddannedd i gadw'r strwythur sy’n weddill rhag cracio, neu yn y senario gwaethaf rhag torri, nes nad oes modd achub y dant. Y nod yw amddiffyn a gosod coron ar ddant cyn i hyn ddigwydd er mwyn cadw’r dant yn gyfan a nerf y dant yn iach.

Mae coronau hefyd yn cael eu defnyddio ar ôl llenwi sianel y gwreiddyn, gan fod y dant yn frau ar ôl y driniaeth yma. Gellir eu gwneud o wydr (Emax), aur, neu borslen (seramig) wedi'i hasio â metel. Bydd gan bob un wahanol fanteision ac anfanteision yn seiliedig ar faint o strwythur sy’n weddill o’r dannedd, a’u lleoliad yn y geg.

Mae coron yn cael ei gwneud gan dechnegydd deintyddol a chaiff ei gwneud yn benodol i geg y claf. Fel arfer fe'i gwneir ar ddannedd unigol neu ar fewnblaniadau - uned sengl. Maen nhw’n cyd-fynd â gweddill y dannedd, ac ym mwyafrif yr achosion os ydynt wedi'u gwneud yn dda, maen nhw’n edrych fel dant naturiol.

Beth ydym yn ei wneud...

What is a bridge?

Mae dwy fath o bont. I wneud pont arferol caiff y dannedd eu naddu fel coron, naill ochr i fwlch un neu ddwy uned. Yna gwneir prosthesis sefydlog 3-4 uned, a'i smentio ar y ddau dant y naill ochr a'r llall i fwlch. Mae hyn yn rhoi gwell edrychiad ac amddiffyniad i'r dannedd, ac wrth gwrs, yn llenwi'r bwlch. Mae gan bontydd rôl i'w chwarae o hyd mewn deintyddiaeth fodern yn achos y claf cywir.

Ail opsiwn yw pont wedi ei gludo â resin (resin retained bridge -RRB). Gellir defnyddio'r rhain ar gyfer bylchau dannedd blaen unigol syml, lle nad oes perygl o ddifrod drwy grensian y dannedd ac ati. Mae pont resin yn dibynnu ar gryfder y smentiau modern a ddefnyddir. Yn syml, darn o fetel tenau ydyw sy'n cael ei ludo y tu ôl i'r dannedd ar y naill ochr a'r llall i'r bwlch. Ni fydd y bont yn weladwy o'r blaen, ac mae'r dant newydd yn cael ei osod yn sownd yn y stribed metel i lenwi'r bwlch.

Beth ydym yn ei wneud...

Beth yw dannedd gosod arferol y gellir eu tynnu?

Gellir cael dannedd gosod yn lle eich holl ddannedd, neu gyfuniad ohonynt â dannedd a bylchau presennol.

Gellir gwneud dannedd gosod o acrylig (plastig) neu gyfuniad o fetel (crôm) a phlastig. Manteision crôm yw bod haenau tenau ohono’n gryf, ac mae modd ei wneud fel ei fod yn eistedd ar eich dannedd, gan roi profiad mwy naturiol wrth fwyta, gyda’r dannedd yn gallu gweithio fel rhai naturiol. Mae dannedd gosod plastig fel arfer yn eistedd ar y gymiau, ac yn symud wrth i chi fwyta a brathu arnynt. Mae hyn yn bendant yn wir gyda dannedd gosod llawn, lle mae angen cyfuniad o reolaeth dda o’r cyhyrau er mwyn i’r dannedd gosod aros yn eu lle.

Anfantais dannedd gosod crôm neu blastig arferol, yw bod yn rhaid gosod gwifrau bach o gwmpas y dannedd i atal y dannedd rhag syrthio allan. Gall y rhain fod yn hyll ac weithiau maen nhw i'w gweld wrth i’r claf wenu.

Beth yw dannedd gosod â chysylltion cywrain (precision attachments)?

Dannedd gosod â chysylltion cywrain yw dannedd sydd wedi’u cynllunio ar y cyd â dannedd penodol y gosodir coron arnynt yn eich ceg, fel eu bod yn gallu ffitio ar y dannedd, yn ogystal â chlicio’n sownd i ddarnau arbennig nad oes modd eu gweld.

Mantais y math diweddaraf yma o ddannedd gosod yw bod dannedd yn cael eu hamddiffyn, a does dim clasbiau / gwifrau metel gweladwy, a dydi’r dannedd gosod ddim yn symud. Mae dannedd gosod â chysylltion cywrain yn brosthesis sy’n edrych ac yn teimlo’n fwy naturiol.

Eisiau i’ch dannedd gosod deimlo’n solet a pheidio â symud o gwmpas?

Mae creu dannedd gosod da yn sgìl, yn fwy o gelfyddyd na gwyddoniaeth. Ond weithiau os yw’r dannedd wedi’u tynnu flynyddoedd ynghynt, mae anatomi ceg y claf yn golygu bod hyd yn oed dannedd gosod da yn gallu bod yn anodd eu rheoli ac yn sefydlog. Mae dannedd rhydd yn embaras os ydych yng nghwmni pobl/ ffrindiau/cydweithwyr, ac yn ei gwneud hi'n anodd bwyta'r pethau rydych chi'n hoff ohonynt, fel stêc flasus neu afal llawn sudd!

Gyda dannedd gosod wedi’u cynnal gyda mewnblaniadau, gallwch fwyta a siarad unwaith eto gyda mwy o hyder, gan wybod na fydd eich dannedd gosod yn symud.

Mae defnyddio mewnblaniadau i angori dannedd gosod (trosblatiau – overdenture) newydd weithiau yn well dewis na phont ên sefydlog. Mae’n golygu nad oes angen impio’r asgwrn, a bydd y dannedd gosod yn helpu i gynnal y gwefusau, a chyhyrau'r wyneb, gan wneud i chi edrych yn iau. Dim mwy o friwiau ceg gyda dannedd gosod rhydd a dim angen gliw dannedd cyn mynd allan i gymdeithasu. Gallwch deimlo’n hyderus fod gennych sylfaen fwy cadarn ar gyfer eich gwên newydd.

Gyda dannedd gosod wedi’u cynnal gyda mewnblaniadau, mae’n hawdd glanhau'r geg a'r dannedd gosod, a gellir angori'r dannedd gosod mewn gwahanol ffyrdd - bar yw’r safon aur a’r gorau.

Po fwyaf o fewnblaniadau rydych chi'n buddsoddi ynddynt, y mwyaf o gynhaliaeth fydd yna i’ch dannedd newydd, a gallwch fod yn fwy hyderus o ddydd i ddydd. Am ragor o wybodaeth, gweler ein hadran mewnblaniadau.

Mewnblaniadau

Mae dannedd artiffisial mewnblaniadau yn edrych yn naturiol ac sy’n sownd mewn mewnblaniad titaniwm wedi'i angori yn asgwrn yr ên; mae’n ddull mwy modern o ailwneud un dant neu nifer o ddannedd a gollwyd neu a ddifrodwyd. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth mewnblaniadau, cliciwch yma.

Eisiau rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim

I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim gyda Chydlynydd Triniaethau ffoniwch ni ar:

01248 858383

Ddim yn un o’n cleifion?

Gwneud Cais Heddiw

Argraffwyd o www.nanog.dental 26/10/2026 16:13:21.

Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team 8 Llys Castan, Parc Menai, Bangor LL57 4FH

Ffôn: 01248 858383
Ebost: reception@nanog.dental