Canolfan Ragoriaeth Ddeintyddol Gogledd Cymru

Tynnu dannedd

Does dim rhaid i golli dant fod yn brofiad ofnus.

Tynnu dannedd yn ddi-boen yng Ngogledd Cymru

Technegau tynnu dannedd yn ddi-boen

Mae cael gwybod bod angen tynnu dant arnoch yn gallu arwain at bryder sylweddol. Ond gyda thechnegau anesthetig lleol modern, ac offer arbenigol, gallwn dynnu dannedd allan yn ddi-boen ac yn rhwydd.

Mae gennym flynyddoedd o brofiad o helpu cleifion gydag achosion syml a chymhleth o dynnu dannedd, ac rydyn ni wedi datblygu enw da am wneud hynny’n ddi-boen, a lleihau nifer y cleifion sydd angen eu hatgyfeirio i'n hysbyty lleol.

Cliciwch yma i atgyfeirio eich claf at ein Harbenigwyr

Tynnu cilddannedd ôl (wisdom teeth)

Tra bod angen tynnu rhai cilddannedd ôl mewn ysbyty dan Anesthetig Cyffredinol, mae’n bosibl tynnu’r mwyafrif yn y practis, gyda dull tawelyddu neu hebddo.

Rydyn ni’n ffodus yn Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team i gael gwasanaeth Ymgynghorydd Macsilio-wynebol sy'n ymweld â’r ddeintyddfa. Mae ganddo nifer o flynyddoedd o brofiad o dynnu achosion cymhleth a thynnu cilddannedd ôl. Yn Na-Nóg byddwch mewn dwylo da ein llawfeddyg.

Gweler ein gwybodaeth i a href="/cy/deintyddiaeth-gyffredinol/cleifion-pryderus/" title="Gleifion Pryderus">gleifion pryderus am ddulliau tawelyddu sydd ar gael i gynorthwyo cleifion pryderus.

Cliciwch yma i atgyfeirio eich claf at ein Harbenigwyr

Eisiau rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim

I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim gyda Chydlynydd Triniaethau ffoniwch ni ar:

01248 858383

Ddim yn un o’n cleifion?

Gwneud Cais Heddiw

Argraffwyd o www.nanog.dental 26/10/2026 23:03:51.

Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team 8 Llys Castan, Parc Menai, Bangor LL57 4FH

Ffôn: 01248 858383
Ebost: reception@nanog.dental