Estheteg yr Wyneb a’r Croen
Eisiau gwrthdroi’r broses heneiddio i edrych yn ifanc unwaith eto?
Eisiau gwrthdroi’r broses heneiddio i edrych yn ifanc unwaith eto?
Mae estheteg yr wyneb yn ddull o reoli effeithiau heneiddio ar yr wyneb heb lawdriniaeth. Wrth i chi fynd yn hŷn efallai eich bod chi eisiau edrych yn llai blinedig ac yn iau, heb orfod troi at lawdriniaeth gosmetig. Os yw'r syniad o edrychiad mwy deniadol gydag wyneb sy'n edrych yn deneuach a nodweddion wyneb meddalach yn apelio atoch chi, yna efallai y byddai estheteg yr wyneb yn apelio atoch chi.
Protein yw Botox sy'n deillio o'r tocsin Botulinum, a gynhyrchir gan y bacteriwm Clostridium Botulinum. Mae Botox yn docsin, ond mae lefelau bach iawn ohono’n gallu parlysu cyhyrau, fel cyhyrau'r wyneb.
el triniaeth gosmetig, gall Botox helpu i leihau rhychau ar yr wyneb. Fe’i datblygwyd yn wreiddiol i helpu i leihau problemau cyhyrau o gwmpas llygaid plant, ers dechrau'r 90au fe'i defnyddiwyd i helpu i feddalu llinellau ar yr wyneb, a rhoi edrychiad iau i’r wyneb. Defnyddir Botox gan amlaf yn rhan uchaf yr wyneb.
Gelwir botox yn niwrotocsin. Gall effeithio ar y signalau sy'n digwydd rhwng nerfau a chyhyrau sy'n gwneud i'r cyhyrau gyfangu. Mae cemegyn o'r enw Acetylchlolin fel arfer yn cael ei ryddhau o'r nerfau sy'n achosi i'r cyfangiad hwn ddigwydd. Bydd Botox yn blocio'r cemegyn yma, ac yn atal y cyhyrau rhag cyfangu, gan feddalu’r rhychau ar yr wyneb. Mae hon yn broses dros dro, gall bara am tua 3-6 mis, cyn i'r effaith ddechrau gwisgo i ffwrdd.
Defnyddir llenwadau croenol i wneud i’r wyneb edrych yn iau a llyfnhau’r llinellau arno. Maen nhw’n cael eu chwistrellu'n ysgafn o dan y croen, ac yn amsugno dŵr i wella proffil yr wyneb. Fe'u defnyddir gan amlaf ar ran isaf a chanol yr wyneb, i lenwi plygiadau trwyn-wefusol (ochr y trwyn), llinellau marionette (o gornel y geg i'r ên), llinell yr ên, y bochau a’r gwefusau.
Mae'r croen yn cynnwys ffibrau o golagen ac elastin, sy’n cael eu cynnal gan ddŵr. Wrth i chi fynd yn hŷn mae'r ffibrau yma’n mynd yn llai ystwyth, ac mae’r dŵr o'u cwmpas yn sychu, gan arwain at grychau, llinellau a newid ym mhroffil yr wyneb.
Mae yna lenwadau parhaol a rhai nad ydynt yn barhaol y gellir eu defnyddio. Yn Neintyddfa Na-Nóg rydyn ni’n defnyddio llenwad sy'n seiliedig ar Asid Hyalwronig sy'n llenwad dros dro. Mae Asid Hyalwronig yn sylwedd siwgwr a geir yn naturiol yn y croen, ac mae'n cael ei amsugno gan y corff dros amser.
Mae llenwadau wyneb fel arfer yn para 6-18 mis, yn dibynnu ble maen nhw'n cael eu chwistrellu, a pha fath o lenwad a ddefnyddir. Bydd rhannau o'r wyneb nad ydynt wedi'u trin â llenwadau yn parhau i heneiddio.
I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim gyda Chydlynydd Triniaethau ffoniwch ni ar:
Ddim yn un o’n cleifion?
Gwneud Cais HeddiwArgraffwyd o www.nanog.dental 26/10/2026 16:11:45.
Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team 8 Llys Castan, Parc Menai, Bangor LL57 4FH
Ffôn: 01248 858383
Ebost: reception@nanog.dental