Canolfan Ragoriaeth Ddeintyddol Gogledd Cymru

Ydych chi’n teimlo’n nerfus ynglŷn mynd at y deintydd?

Yn Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team, rydyn ni’n cynnig dulliau tawelyddu ochr yn ochr â’ch triniaethau, a fydd yn sicrhau eich bod yn ymlacio a ddim yn teimlo’n bryderus. Mae cost ychwanegol am hyn.

Dr Shilpa Shah

Gweithiwr Proffesiynol Gofal Iechyd - Tawelyddu Oedolion a Phlant

Mae Shilpa yn canolbwyntio ar reoli poen a gorbryder ac yn cynnig dulliau tawelyddu deintyddol lle’r mae’r claf yn effro. Mae hi’n angerddol am wella mynediad at ddeintyddiaeth o ansawdd uchel i gleifion sy’n bryderus a sefydlu gwasanaeth tawelyddu symudol i filoedd o bobl yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Fe’i penodwyd i Fwrdd y Gymdeithas er Hyrwyddo Anesthesia mewn Deintyddiaeth (SAAD) yn 2017 ac mae’n darlithio’n rheolaidd ar dawelyddu yn ogystal â mentora deintyddion trwy roi hyfforddiant ar dawelyddu. Yn 2023 fe’i henwebwyd i Fwrdd Cymdeithas Anesthetyddion Deintyddol a Thawelyddwyr.

DARLLENWCH FWY
Dr Shilpa Shah

Beth yw dull tawelyddu effro?

Mae tawelyddu ymwybodol yn dechneg lle mae cyffur neu gyffuriau’n cael eu defnyddio i arafu neu leihau gweithgarwch y brif system nerfol fel bod modd cynnal y driniaeth, ond bydd yn dal yn bosibl siarad â’r claf trwy gydol y sesiwn tawelyddu. Nid yw'n debyg i Anesthetig Cyffredinol.

Gyda dull tawelyddu ymwybodol mae'r claf yn dal i anadlu drosto’i hun, ac ymateb i orchmynion gan y tîm deintyddol.

Nodwch: mae angen asesiad llawn a rhaid talu am ymgynghoriad cyn triniaeth dawelyddu, a chodir tâl ychwanegol am y driniaeth dawelyddu ei hun. Cost ymgynghoriad cychwynnol gyda'r costau tawelyddu yw £135.

Tawelyddu Mewnwythiennol

Mae cyffur yn cael ei roi’n ofalus gan eich deintydd trwy wythïen yn eich braich neu'ch llaw ac yn helpu i wneud i chi ymlacio a theimlo’n gyfforddus yn ystod y driniaeth. Mae'n cael gwared ar unrhyw bryder, yn gwneud i chi deimlo'n gysglyd ac yn eich llonyddu, ac er eich bod chi'n dal yn effro, fyddwch chi ddim yn cofio'r driniaeth a byddwch yn gadael yn teimlo eich bod wedi ymlacio’n braf. Rhaid i chi fynychu pob apwyntiad tawelyddu yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Bydd cyfnod byr i ddod atoch eich hun ar ôl y driniaeth. Os bydd cymhlethdod, sy’n annhebygol, gellir dad-wneud y driniaeth yma’n hawdd.

Ar ôl cael cyffur mewnwythiennol fyddwch chi ddim yn gallu gyrru am 24 awr a bydd angen i rywun fod gyda chi am 24 awr ar ôl y driniaeth.

Tawelyddu drwy’r Geg

Weithiau mae gofyn am ychydig o dabledi cysgu cyn triniaeth fawr yn gallu bod o gymorth. Mae cael noson dda o gwsg yn fanteisiol, ac mae cael presgripsiwn untro gan eich meddyg teulu yn gweithio'n dda i lawer o bobl.

Tawelyddu ar gyfer triniaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru

Eisiau rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim

I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu ymgynghoriad am ddim gyda Chydlynydd Triniaethau ffoniwch ni ar:

01248 858383

Ddim yn un o’n cleifion?

Gwneud Cais Heddiw

Argraffwyd o www.nanog.dental 26/10/2026 16:11:24.

Deintyddfa Na-Nóg Dental & Implant Team 8 Llys Castan, Parc Menai, Bangor LL57 4FH

Ffôn: 01248 858383
Ebost: reception@nanog.dental